Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy’n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.” Mae’n union yr un fath i’r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae’n rhoi yn hael o’i fendithion i bwy bynnag sy’n galw arno. Achos, “Bydd pwy bynnag sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub.”