Pan agorodd yr Oen y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn cyhoeddi’n uchel, “Tyrd allan!” Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl du o mlaen i, a’r marchog ar ei gefn yn dal clorian yn ei law. Yna clywais lais yn dod o ble roedd y pedwar creadur byw, yn cyhoeddi’n uchel: “Cyflog diwrnod llawn am lond dwrn o wenith, neu am ryw ychydig o haidd! Ond paid gwneud niwed i’r coed olewydd a’r gwinwydd!”