1
Diarhebion 11:25
beibl.net 2015, 2024
Mae’r bobl sy’n fendith i eraill yn llwyddo, a’r rhai sy’n rhoi dŵr i eraill yn cael eu diwallu.
Compare
Explore Diarhebion 11:25
2
Diarhebion 11:24
Mae un yn rhoi yn hael, ac yn ennill mwy o gyfoeth, ac un arall yn grintachlyd, ac ar ei golled.
Explore Diarhebion 11:24
3
Diarhebion 11:2
Mae snobyddiaeth yn arwain at gywilydd; pobl wylaidd ydy’r rhai doeth.
Explore Diarhebion 11:2
4
Diarhebion 11:14
Heb arweiniad clir mae gwlad yn methu; mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth.
Explore Diarhebion 11:14
5
Diarhebion 11:30
Mae byw yn iawn yn dwyn ffrwyth, fel coeden sy’n rhoi bywyd; ond mae trais yn lladd pobl.
Explore Diarhebion 11:30
6
Diarhebion 11:13
Mae’r un sy’n hel clecs yn bradychu cyfrinach, ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach.
Explore Diarhebion 11:13
7
Diarhebion 11:17
Mae person caredig yn gwneud lles iddo’i hun, a rhywun sy’n greulon yn achosi trwbwl iddo’i hun.
Explore Diarhebion 11:17
8
Diarhebion 11:28
Bydd rhywun sy’n dibynnu ar ei gyfoeth yn syrthio, ond y rhai sy’n byw yn iawn yn blodeuo.
Explore Diarhebion 11:28
9
Diarhebion 11:4
Fydd cyfoeth yn dda i ddim ar ddydd y farn, ond mae byw yn iawn yn achub bywyd.
Explore Diarhebion 11:4
10
Diarhebion 11:3
Mae gonestrwydd yn arwain y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn, ond mae twyll yn dinistrio’r rhai sy’n twyllo.
Explore Diarhebion 11:3
11
Diarhebion 11:22
Mae gwraig hardd heb sens fel modrwy aur yn nhrwyn hwch.
Explore Diarhebion 11:22
12
Diarhebion 11:1
Mae’n gas gan yr ARGLWYDD glorian dwyllodrus, ond mae defnyddio pwysau cywir wrth ei fodd.
Explore Diarhebion 11:1
Home
Bible
Plans
Videos