Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig,
a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di.
Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio’r gwyrthiau
roeddet ti wedi’u gwneud yn eu plith nhw.
Dyma nhw’n gwrthryfela, a dewis arweinydd
i’w harwain nhw yn ôl i’r Aifft.
Ond rwyt ti’n Dduw sydd yn maddau,
rwyt ti mor garedig a thrugarog,
mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael!
Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw