1
Mathew 18:20
beibl.net 2015, 2024
Pan mae dau neu dri sy’n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”
Compare
Explore Mathew 18:20
2
Mathew 18:19
“A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, bydd fy Nhad yn y nefoedd yn ei roi i chi.
Explore Mathew 18:19
3
Mathew 18:2-3
Galwodd blentyn bach ato, a’i osod yn y canol o’u blaenau, ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o’r rhai mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Explore Mathew 18:2-3
4
Mathew 18:4
Felly, pwy bynnag sy’n gweld ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy’r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol.
Explore Mathew 18:4
5
Mathew 18:5
Ac mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi.
Explore Mathew 18:5
6
Mathew 18:18
“Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi’n eu rhwystro ar y ddaear wedi’u rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi’n eu caniatáu ar y ddaear wedi’u caniatáu yn y nefoedd.
Explore Mathew 18:18
7
Mathew 18:35
“Dyna sut fydd fy Nhad nefol yn delio gyda chi os na wnewch chi faddau’n llwyr i’ch gilydd.”
Explore Mathew 18:35
8
Mathew 18:6
Ond pwy bynnag sy’n gwneud i un o’r rhai bach yma sy’n credu ynof fi bechu, byddai’n well i’r person hwnnw gael maen melin wedi’i rwymo am ei wddf, ac iddo foddi yn eigion y môr.
Explore Mathew 18:6
9
Mathew 18:12
“Beth ydych chi’n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw’n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai’n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll?
Explore Mathew 18:12
Home
Bible
Plans
Videos