Dyna pam wnes i ddim dod i dy gyfarfod di fy hun. Does ond rhaid i ti ddweud, a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr odanaf fi. Dw i’n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae’n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae’n dod. Dw i’n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae’n ei wneud.”
Roedd Iesu wedi’i syfrdanu pan glywodd hyn. Trodd at y dyrfa oedd yn ei ddilyn, ac meddai, “Dw i’n dweud wrthoch chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!”