1
Eseia 35:10
beibl.net 2015, 2024
Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy’n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw’n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Compare
Explore Eseia 35:10
2
Eseia 35:3-4
Cryfhewch y dwylo llesg; a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn. Dwedwch wrth y rhai ofnus, “Byddwch yn ddewr, peidiwch bod ag ofn. Edrychwch ar eich Duw – mae e’n dod i ddial ar eich gelynion! Y tâl dwyfol! Ydy, mae e’i hun yn dod i’ch achub chi!”
Explore Eseia 35:3-4
3
Eseia 35:8
Bydd priffordd, ie, ffordd yno sy’n cael ei galw, ‘Y Ffordd Sanctaidd’. Fydd neb sy’n aflan yn cael teithio arni – mae ar gyfer y rhai sy’n cerdded y Ffordd. Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd.
Explore Eseia 35:8
4
Eseia 35:5
Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor, a chlustiau pobl fyddar hefyd.
Explore Eseia 35:5
5
Eseia 35:6
Bydd y cloff yn neidio fel hydd, a’r mud yn gweiddi’n llawen! Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch, ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.
Explore Eseia 35:6
Home
Bible
Plans
Videos