Yr un sy’n gwneud beth sy’n iawn ac yn dweud y gwir,
sy’n gwrthod elwa drwy dwyll, na derbyn breib,
yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed,
ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg.
Person felly fydd yn saff rhag y cwbl,
a chreigiau uchel yn gaer o’i gwmpas.
Bydd bwyd yn cael ei roi i’w gynnal
a bydd digonedd o ddŵr iddo.