1
Eseia 1:18
beibl.net 2015, 2024
Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,” –meddai’r ARGLWYDD. “Os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar, gallan nhw droi’n wyn fel yr eira; os ydyn nhw’n goch tywyll, gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.
Compare
Explore Eseia 1:18
2
Eseia 1:19
Os dych chi’n fodlon gwrando a gwneud be dw i’n ddweud, cewch fwyta cynnyrch da’r tir
Explore Eseia 1:19
3
Eseia 1:17
dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder, o blaid y rhai sy’n cael eu gorthrymu. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw.
Explore Eseia 1:17
4
Eseia 1:20
ond os byddwch chi’n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando, byddwch chi’n cael eich difa â’r cleddyf,” –mae’r ARGLWYDD wedi dweud.
Explore Eseia 1:20
5
Eseia 1:16
Ymolchwch! Byddwch yn lân! Ewch â’r pethau drwg dych chi’n eu gwneud allan o’m golwg i! Stopiwch wneud drwg
Explore Eseia 1:16
6
Eseia 1:15
Pan fyddwch chi’n codi’ch dwylo i weddïo, bydda i’n edrych i ffwrdd. Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi, ond fydda i ddim yn gwrando. Mae gwaed ar eich dwylo chi!
Explore Eseia 1:15
7
Eseia 1:13
Stopiwch ddod â’ch offrymau diystyr! Mae’r arogldarth yn troi arna i! Dych chi’n dathlu gŵyl y lleuad newydd a’r Sabothau, ac yn cynnal cyfarfodydd eraill, Ond alla i ddim diodde’r drygioni sy’n mynd gyda’ch dathliadau crefyddol chi.
Explore Eseia 1:13
8
Eseia 1:3
Mae ych yn nabod ei berchennog ac asyn yn gwybod lle mae cafn bwydo ei feistr: ond dydy Israel ddim yn fy nabod i; dydy fy mhobl i’n cymryd dim sylw!”
Explore Eseia 1:3
9
Eseia 1:14
Dw i’n casáu’r lleuadau newydd a’ch gwyliau eraill chi. Maen nhw’n faich arna i; alla i mo’u diodde nhw.
Explore Eseia 1:14
Home
Bible
Plans
Videos