1
Galatiaid 6:9
beibl.net 2015, 2024
Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw’r amser pan fyddwn ni’n medi cynhaeaf o fendith.
Compare
Explore Galatiaid 6:9
2
Galatiaid 6:10
Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i’r teulu o gredinwyr.
Explore Galatiaid 6:10
3
Galatiaid 6:2
Helpwch eich gilydd pan mae pethau’n galed – dyna mae ‘cyfraith’ y Meseia yn ei ofyn.
Explore Galatiaid 6:2
4
Galatiaid 6:7
Peidiwch twyllo’ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw’n ei hau.
Explore Galatiaid 6:7
5
Galatiaid 6:8
Bydd y rhai sy’n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy’n byw i blesio’r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o’r Ysbryd.
Explore Galatiaid 6:8
6
Galatiaid 6:1
Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi sy’n cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, a’i helpu i droi’n ôl – ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth.
Explore Galatiaid 6:1
7
Galatiaid 6:3-5
Os dych chi’n meddwl eich bod chi’n rhywun, dych chi’n twyllo’ch hunain – dych chi’n neb mewn gwirionedd. Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi’i wneud heb orfod cymharu’ch hunain â phobl eraill o hyd. Dŷn ni’n gyfrifol am beth dŷn ni’n hunain wedi’i wneud.
Explore Galatiaid 6:3-5
Home
Bible
Plans
Videos