1
Exodus 5:1
beibl.net 2015, 2024
Aeth Moses ac Aaron at y Pharo, a dweud wrtho, “Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gad i’m pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gynnal gŵyl i mi yn yr anialwch.’”
Compare
Explore Exodus 5:1
2
Exodus 5:23
O’r eiliad es i i siarad â’r Pharo ar dy ran di, mae e wedi achosi trwbwl i’r bobl yma, a dwyt ti wedi gwneud dim byd i’w hachub nhw!”
Explore Exodus 5:23
3
Exodus 5:22
Dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “O! Feistr, pam ti’n trin dy bobl fel yma? Pam yn y byd wnest ti fy anfon i atyn nhw?
Explore Exodus 5:22
4
Exodus 5:2
Ond dyma’r Pharo’n ateb, “A pwy ydy’r ARGLWYDD yma dw i i fod i wrando arno, a gadael i bobl Israel fynd? Dw i ddim yn gwybod pwy ydy e, a dw i ddim yn mynd i adael i Israel fynd yn rhydd chwaith!”
Explore Exodus 5:2
5
Exodus 5:8-9
Ond bydd dal ddisgwyl iddyn nhw wneud yr un nifer o frics ag o’r blaen. Peidiwch gadael iddyn nhw wneud llai. Mae’n amlwg eu bod nhw’n slacio, a dyna pam maen nhw’n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i’n Duw.’ Gwnewch iddyn nhw weithio’n galetach. Fydd ganddyn nhw ddim amser i wrando ar gelwyddau’r dynion yna wedyn!”
Explore Exodus 5:8-9
Home
Bible
Plans
Videos