1
Effesiaid 6:12
beibl.net 2015, 2024
Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae’n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy’n llywodraethu, sef yr awdurdodau a’r pwerau tywyll sy’n rheoli’r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol.
Compare
Explore Effesiaid 6:12
2
Effesiaid 6:18
A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae’r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo’n daer dros bobl Dduw i gyd.
Explore Effesiaid 6:18
3
Effesiaid 6:11
Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi’n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol.
Explore Effesiaid 6:11
4
Effesiaid 6:13
Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw’n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau’n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr.
Explore Effesiaid 6:13
5
Effesiaid 6:16-17
Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser – byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi. Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw.
Explore Effesiaid 6:16-17
6
Effesiaid 6:14-15
Safwch gyda gwirionedd wedi’i rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch, a’r brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed.
Explore Effesiaid 6:14-15
7
Effesiaid 6:10
Dyma’r peth olaf sydd i’w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a’r pŵer aruthrol sydd ganddo fe.
Explore Effesiaid 6:10
8
Effesiaid 6:2-3
Y gorchymyn cyntaf sydd ag addewid ynghlwm wrtho ydy: Gofala am dy dad a dy fam, a bydd pethau’n mynd yn dda i ti, a chei fyw’n hir.
Explore Effesiaid 6:2-3
9
Effesiaid 6:1
Dylech chi’r plant sy’n perthyn i’r Arglwydd fod yn ufudd i’ch rhieni, am mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
Explore Effesiaid 6:1
Home
Bible
Plans
Videos