Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i’n ei wasanaethu. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae’n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw’n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’