Dŷn ni’n gwybod hefyd mai dim ar gyfer y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn y cafodd y Gyfraith ei rhoi. Mae hi ar gyfer y bobl hynny sy’n anufudd ac yn gwrthryfela, pobl annuwiol a phechadurus, pobl sy’n parchu dim ac yn ystyried dim byd yn gysegredig. Ar gyfer y rhai sy’n lladd eu tadau a’u mamau, llofruddion, pobl sy’n pechu’n rhywiol, yn wrywgydwyr gweithredol, pobl sy’n prynu a gwerthu caethweision, yn dweud celwydd, ac sy’n rhoi tystiolaeth gelwyddog, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy’n groes i ddysgeidiaeth gywir.