Ac yn olaf, dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda’ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â’ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â’ch gilydd. Peidiwch talu’r pwyth yn ôl drwy enllibio rhywun am eu bod nhw wedi’ch enllibio chi. Yn lle hynny, bendithiwch nhw! Dyna mae Duw am i chi ei wneud, a bydd e wedyn yn eich bendithio chi.