Geiriau Amos, yr hwn oedd ymysg y perchenogion defaid, o Decoa, a welodd am Israel, yn amser
Wssïa brenin Iwda, ac yn amser Ieroboam fab Ioas, brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn:
Iafe o Seion a rua,
Ac o Ierwsalem a lefa,
Yna galara porfeydd y bugeiliaid,
A gwywa pen Carmel.