1
Y Salmau 42:11
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn NUW; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.
Compare
Explore Y Salmau 42:11
2
Y Salmau 42:1-2
Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O DDUW. Sychedig yw fy enaid am DDUW, am y DUW byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron DUW?
Explore Y Salmau 42:1-2
3
Y Salmau 42:5
Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn NUW: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd.
Explore Y Salmau 42:5
4
Y Salmau 42:3
Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW?
Explore Y Salmau 42:3
5
Y Salmau 42:6
Fy NUW, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar.
Explore Y Salmau 42:6
Home
Bible
Plans
Videos