1
Mathew 16:24
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.
Compare
Explore Mathew 16:24
2
Mathew 16:18
Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.
Explore Mathew 16:18
3
Mathew 16:19
A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.
Explore Mathew 16:19
4
Mathew 16:25
Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid i, a’i caiff.
Explore Mathew 16:25
5
Mathew 16:26
Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?
Explore Mathew 16:26
6
Mathew 16:15-16
Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw.
Explore Mathew 16:15-16
7
Mathew 16:17
A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Explore Mathew 16:17
Home
Bible
Plans
Videos