1
Malachi 3:10
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Dygwch yr holl ddegwm i’r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i’w derbyn.
Compare
Explore Malachi 3:10
2
Malachi 3:11-12
Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a’r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd. A’r holl genhedloedd a’ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Explore Malachi 3:11-12
3
Malachi 3:17-18
A byddant eiddof fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu. Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a’r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho DDUW a’r hwn nis gwasanaetho ef.
Explore Malachi 3:17-18
4
Malachi 3:1
Wele fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o’m blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i’w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Explore Malachi 3:1
Home
Bible
Plans
Videos