1
Luc 6:38
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.
Compare
Explore Luc 6:38
2
Luc 6:45
Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.
Explore Luc 6:45
3
Luc 6:35
Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf: canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg.
Explore Luc 6:35
4
Luc 6:36
Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.
Explore Luc 6:36
5
Luc 6:37
Ac na fernwch, ac ni’ch bernir: na chondemniwch, ac ni’ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau
Explore Luc 6:37
6
Luc 6:27-28
Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt: Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant.
Explore Luc 6:27-28
7
Luc 6:31
Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.
Explore Luc 6:31
8
Luc 6:29-30
Ac i’r hwn a’th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd. A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl.
Explore Luc 6:29-30
9
Luc 6:43
Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da.
Explore Luc 6:43
10
Luc 6:44
Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin.
Explore Luc 6:44
Home
Bible
Plans
Videos