1
Josua 1:9
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.
Compare
Explore Josua 1:9
2
Josua 1:8
Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.
Explore Josua 1:8
3
Josua 1:7
Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.
Explore Josua 1:7
4
Josua 1:5
Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
Explore Josua 1:5
5
Josua 1:6
Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.
Explore Josua 1:6
6
Josua 1:3
Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses.
Explore Josua 1:3
7
Josua 1:2
Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel.
Explore Josua 1:2
8
Josua 1:1
Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd
Explore Josua 1:1
9
Josua 1:4
O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad yr Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.
Explore Josua 1:4
10
Josua 1:18
Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchmynnych iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfha, ac ymwrola.
Explore Josua 1:18
11
Josua 1:11
Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i’r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu’r wlad y mae yr ARGLWYDD eich DUW yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu.
Explore Josua 1:11
Home
Bible
Plans
Videos