1
Eseia 43:19
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Wele fi yn gwneuthur peth newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.
Compare
Explore Eseia 43:19
2
Eseia 43:2
Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tân, ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat.
Explore Eseia 43:2
3
Eseia 43:18
Na chofiwch y pethau o’r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt.
Explore Eseia 43:18
4
Eseia 43:1
Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt.
Explore Eseia 43:1
5
Eseia 43:4
Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di.
Explore Eseia 43:4
6
Eseia 43:3
Canys myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat.
Explore Eseia 43:3
7
Eseia 43:5
Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf.
Explore Eseia 43:5
8
Eseia 43:25
Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau.
Explore Eseia 43:25
9
Eseia 43:10
Fy nhystion i ydych chwi, medd yr ARGLWYDD, a’m gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o’m blaen nid oedd DUW wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl.
Explore Eseia 43:10
10
Eseia 43:11
Myfi, myfi yw yr ARGLWYDD; ac nid oes geidwad ond myfi.
Explore Eseia 43:11
11
Eseia 43:13
Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o’m llaw: gwnaf, a phwy a’i lluddia?
Explore Eseia 43:13
12
Eseia 43:20-21
Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a’m gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a’r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i’m pobl, fy newisedig. Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.
Explore Eseia 43:20-21
13
Eseia 43:6-7
Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a’m merched o eithaf y ddaear; Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.
Explore Eseia 43:6-7
14
Eseia 43:16-17
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion; Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.
Explore Eseia 43:16-17
15
Eseia 43:15
Myfi yr ARGLWYDD yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi.
Explore Eseia 43:15
Home
Bible
Plans
Videos