Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o’r gogledd gorwynt, a chwmwl mawr, a thân yn ymgymryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o’i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr. Hefyd o’i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; dull dyn oedd iddynt. A phedwar wyneb i bob un, a phedair adain i bob un ohonynt. A’u traed yn draed union; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw. Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a’u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar. Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni throent; aent bob un yn union rhag ei wyneb.