A phob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail. A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.