1
1 Corinthiaid 8:6
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.
Compare
Explore 1 Corinthiaid 8:6
2
1 Corinthiaid 8:1-2
Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod, ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu. Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod.
Explore 1 Corinthiaid 8:1-2
3
1 Corinthiaid 8:13
Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.
Explore 1 Corinthiaid 8:13
4
1 Corinthiaid 8:9
Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid.
Explore 1 Corinthiaid 8:9
Home
Bible
Plans
Videos