YouVersion Logo
Search Icon

Popular Bible Verses from Salmau 27

Disgwyl wrth Iehofa; Bydd gryf, ymwroled dy galon, Ond disgwyl wrth Iehofa. SALM XXVII Y mae’r Salm hon yn enghraifft arall o blethu dwy gân ynghyd. Gelwir hi gan rai esbonwyr yn ‘Anthem Ddramatig’, a chynnwys anthem felly ydyw nodyn buddugol yn gyntaf, yna adroddiad o drallodion a gweddi am ymwared rhagddynt, ac i ddiweddu’r Salm ceir eto’r nodyn buddugol. Cân ydyw’r rhan gyntaf a ganwyd yn ystod rhyfel, a’r gelyn yn gwarchae ar Ieriwsalem, a dichon ei chanu yn ystod y digwyddiadau yn nyddiau Heseceia a adroddir yn 2 Br. 18-19. Gweddi daer, nerfus sydd y rhan olaf, ac awgrym sydd yn adn. 10 o ddigwyddiadau oedd yn rhannu ac yn gwahanu teuluoedd, ac yn nyddiau cynnar y Macabeaid, hyd y gwyddys, y bu amgylchiadau felly. 1. FY NGOLEUNI, — nid enw ar Dduw, ond Iehofa sydd yn goleuo ac yn disgleirio arnaf. 2. Nid gelynion crefyddol, ond gelynion cenedlaethol sy’n ymosod ar y ddinas. 4. Nid ei wared rhag y gelynion yw ei ddyhead, ond cael parhau i fwynhau yr addoliad yn y Deml, a syllu ar hyfrydwch Iehofa yn yr aberth boreol, canys dyna brif wasanaeth y dydd a’r mwyaf gogoneddus. ‘Yn y bore’ ydyw’r darlleniad cywir, a chyfeiriad sydd at yr aberth boreol. 5. Y Deml a feddylir wrth ‘lloches’ a ‘pabell’. Yr awgrym yw nad gwiw i’r ddinas ddisgwyl ymwared trwy undim ond trwy rym cywirdeb ei haddoliad. 6. EBYRTH Y LLAWEN FLOEDD, yr ebyrth a aberthid yn y Deml â bloedd llais a sain symbalau. 10. Ni ddylid rhoi gormod pwys ar yr ymadrodd, a rhy frau yw’r edefyn hwn i benderfynu cyfnod y Salm. Y mae’n wir dyfod chwerwedd a gwahanu i deuluoedd yng nghyfnod y Macabeaid, ond gellir mynegi ymddiried diysgog yn Nuw yn y geiriau hyn ym mhob cyfnod ac mewn unrhyw gyfnod. 11. ‘Oherwydd fy ngelynion cynllwyngar’ er mwyn iddo osgoi eu cynllwynion, a chael y llaw uchaf arnynt. 13. Er anwyled yr ymadrodd gynt, “Diffygiaswn, pe na chredaswn”, — rhaid yw cefnu arno. “Yn nhir y byw” ac nid ym mro y Cysgodion (Sheol) y dymuna’r Salmydd brofi y pethau da a ddyry Iehofa, canys yn Sheol nid oes obaith. 1. Os ydych yn derbyn y syniad mai cân a gyfansoddwyd yn ystod rhyfel ydyw hon, ystyriwch ysbryd y Salmydd o’i gymharu â’n hysbryd ni yn ystod y Rhyfel diwethaf ac yn wyneb bygythion rhyfeloedd eraill. 2. A ydyw bywyd ac un nod mawr iddo yn amgenach na bywyd a chanddo amryfal ddiddordebau? (adn. 4). 3. Yn nhir y byw yn unig y disgwyl y Salmydd weld daioni yr Arglwydd (adn. 13); pa wahaniaeth a wnâi colli ffydd mewn bywyd ar ôl hwn i ddynion?

Free Reading Plans and Devotionals related to Salmau 27