Tyrd, Arglwydd, i farnu ’ngelynion,
A saf yn eu herbyn mewn llid.
Ymgasgled y bobl o’th amgylch,
A thi uwch eu pennau i gyd.
Ond barna fi’n ôl fy nghyfiawnder,
Difetha ddrygioni o’r tir.
Dduw cyfiawn, sy’n profi calonnau,
Dyrchafa y cyfiawn a’r gwir.