Лого на YouVersion
Иконка за търсене

Matthew Lefi 25:34-40

Matthew Lefi 25:34-40 CJW

Yna y dywed y Brenin wrth y rhai àr ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas à barotowyd i chwi èr lluniad y byd; canys bum newynog, a chwi á roisoch i mi fwyd; bum sychedig, a chwi á roisoch i mi ddiod; bum ddyeithr, a chwi á’m llettyasoch; bum noeth, a chwi á’m dilladasoch; bum glaf, a chwi á’m cynnorthwyasoch; bum yn ngharchar, a chwi á ymwelsoch â mi. Yna y cyfiawnion á’i hatebant ef, gàn ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y gwelsom di yn newynog, ac yth borthasom; neu sychedig, ac y rhoisom i ti ddiod? Pa bryd yth welsom yn ddyeithr, ac yth lettyasom? Pa bryd yth welsom yn glaf, neu yn ngharchar, ac yr ymwelsom â thi? Y Brenin á etyb iddynt, Yn wir, meddaf i chwi, yn gymaint a’i wneuthur o honoch i un o’r rhai lleiaf hyn fy mrodyr, chwi á’i gwnaethoch i mi.