Лого на YouVersion
Иконка за търсене

Matthew Lefi 20:29-34

Matthew Lefi 20:29-34 CJW

Fel yr oeddynt yn gadael Iericho, yn cael eu dylyn gàn dyrfa fawr, dau o ddeillion, à eisteddent wrth ymyl y ffordd, wedi clywed bod Iesu yn myned heibio, á lefasant, gàn ddywedyd, Feistr, Fab Dafydd, tosturia wrthym. Y dyrfa á’u ceryddodd hwynt i dewi; hwythau á waeddasant yn uwch, gàn ddywedyd, Feistr, Fab Dafydd, tosturia wrthym. Yna Iesu á safodd, á’u galwodd hwynt ac á ddywedodd, Beth sydd arnoch eisieu i mi ei wneuthur i chwi? Hwythau á atebasant, Syr, gwneuthur i ni weled. Iesu á dosturiodd, ac á gyfhyrddodd â’u llygaid hwynt. Yn ddiattreg hwy á gawsant olwg, ac á’i canlynasant ef.