Лого на YouVersion
Иконка за търсене

Matthew Lefi 17:14-18

Matthew Lefi 17:14-18 CJW

Gwedi eu dyfod at y dyrfa, daeth ato ddyn, yr hwn, gàn benlinio, á ddywedodd, Syr, tosturia wrth fy mab; oblegid y mae yn cael ei boeni yn dost gàn loerigrwydd; mynych y syrthia i’r tân, a mynych i’r dwfr, a mi a’i cyflwynais ef i dy ddysgyblion; ond ni allasent hwy ei iachâu ef. Iesu gàn ateb, á ddywedodd, O genedlaeth annghrediniol a throfâus! Pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? Dygwch ef yma ataf fi. Yna Iesu á geryddodd y cythraul, ac efe á ddaeth allan; a’r bachgen á iachâwyd yn y màn.