Roedd yr aberth yn arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD, ac meddai wrtho’i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio’r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw’n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud.
Tra mae’r byd yn bod,
bydd amser i blannu a chasglu’r cynhaeaf;
bydd tywydd oer a thywydd poeth,
haf a gaeaf, nos a dydd.”