Yna Iesu á gyfarchodd y bobl a’i ddysgyblion, gàn ddywedyd, Y mae yr Ysgrifenyddion a’r Phariseaid yn eistedd yn nghadair Moses; am hyny cadẅwch a gwnewch bethbynag á beront i chwi; èr hyny, na ddylynwch eu hangraifft hwynt, canys dywedant, a ni wnânt. Y maent yn parotoi beichiau trymion ac anhyddwyn i ysgwyddau ereill, beichiau na wnant hwy eu hunain, roddi bys wrthynt. Ond bethbynag á wnant, hwy á’i gwnant èr cael eu gweled gàn ddynion. Er mwyn hyn, gwisgant gadwadogion llettach nag ereill, a siobynau mwy àr eu mantelli; a charant y lleoedd uchaf mewn gwleddau, a’r prif esteddlëoedd yn y cynnullfëydd, a chyfarchiadau mewn lleoedd cyhoeddus; a chlywed rhai wrth eu hanerch, yn gwaeddi, Rabbi, Rabbi. Ond am danoch chwi, na chymerwch yr enwawd Rabbi; canys nid oes i chwi ond un athraw; a na alẅwch neb àr y ddaiar yn dad i chwi, canys efe yn unig, yr hwn sydd yn y nefoedd, yw eich tad chwi; a chwithau oll brodyr ydych. Na chymerwch chwaith yr enwawd – arweinwyr; canys nid oes i chwi ond un arweinydd, yr hwn yw y Messia. Yn y gwrthwyneb, y mwyaf o honoch chwi, fydd yn was i chwi; canys pwybynag á ddyrchafo ei hun á ostyngir; a phwybynag á ostyngo ei hun á ddyrchefir.