1
Luc 13:24
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
“Ymegnïwch i fynd i mewn trwy'r drws cul, oherwydd rwy'n dweud wrthych y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ac yn methu.
አወዳድር
{{ጥቅስ}} ያስሱ
2
Luc 13:11-12
Yr oedd yno wraig oedd ers deunaw mlynedd yng ngafael ysbryd oedd wedi bod yn ei gwanychu nes ei bod yn wargrwm ac yn hollol analluog i sefyll yn syth. Pan welodd Iesu hi galwodd arni, “Wraig, yr wyt wedi dy waredu o'th wendid.”
3
Luc 13:13
Yna dododd ei ddwylo arni, ac ar unwaith ymunionodd drachefn, a dechrau gogoneddu Duw.
4
Luc 13:30
Ac yn wir, bydd rhai sy'n olaf yn flaenaf, a rhai sy'n flaenaf yn olaf.”
5
Luc 13:25
Unwaith y bydd meistr y tŷ wedi codi a chau'r drws, gallwch chwithau sefyll y tu allan a churo ar y drws, gan ddweud, ‘Arglwydd, agor inni’; ond bydd ef yn eich ateb, ‘Ni wn o ble'r ydych.’
6
Luc 13:5
Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.”
7
Luc 13:27
A dywed ef wrthych, ‘Ni wn o ble'r ydych. Ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr oll.’
8
Luc 13:18-19
Meddai gan hynny, “I beth y mae teyrnas Dduw yn debyg, ac i beth y cyffelybaf hi? Y mae'n debyg i hedyn mwstard; y mae rhywun yn ei gymryd ac yn ei fwrw i'w ardd, ac y mae'n tyfu ac yn dod yn goeden, ac y mae adar yr awyr yn nythu yn ei changhennau.”
Home
Bible
Plans
Videos